....Enhancing the health and welfare of your flock..Gwella iechyd a llesiant eich haid....

....Enhancing the health and welfare of your flock..Gwella iechyd a llesiant eich haid....

....Wynnstay Humphrey Feeds produce many 'complete' compound feeds.  'Complete' is a legal term which means that the feed provides all the nutritional requirements for your birds.  Anything else the birds eat (grass, insects etc.), or anything else that is added, is over and above the carefully balanced nutrition which is provided in one of our complete compound feeds.

We can add a number of supplements or additives (many of them natural in origin), to feed or prevent disease, protect the health and welfare of your flock as well as optimise production.

The type of supplements used will depend on the age and needs of your flock, and will be determined in consultation between you and your farm feed consultant.

The common supplements that we have available to include are:

Actigen

Actigen promotes beneficial bacteria and natural defences and helps fight deleterious bacteria.

Gastrointestinal (GI) health and integrity is essential for animal performance and Bio-Mos ‘feeds the GI tract’ and thus plays a critical role in animal nutrition and production.

  • Maintains gut health

  • Participates in normalising gut microflora

  • Reinforces the natural defences

  • Reinforces the function of the digestive system

  • Helps / contributes to managing the risk of diarrhoea

Actigen is produced and marketed by Alltech a company with nearly 40 years’ experience of enhancing animal health and well-being, and which specializes in utilizing the benefits of specific yeast.

Yolk Pigments

We have several ranges of layers diets, differentiated by different types and levels of pigments.  All of our standard diets contain an ideal combination of yellow and red pigments to achieve a specific shade and type of yolk.

The yellow pigment used is a stabilised version of marigold, and the red can either be from a natural or a nature identical source of red.  The natural red is from a stabilised version of paprika, whereas the nature identical red (a food grade pigment), uses the same chemical that is naturally available to produce usually a darker level.

We can add extra natural or nature identical to deepen the orange colour of the yolk.

Marine Shells

Marine shells can be added as laying birds age.  Marine shells provide additional larger particles of calcium over and above the level of limestone in the feed.

Calcium is essential for skeletal development in the young bird, but also for shell development in the mature layer.  Additional calcium in the form of marine shells, not only supports the health of the gizzard, but provides slower release calcium for when the shell is being produced.

Sodium Bicarbonate

Poultry require sodium to help maintain the essential electrolyte balance necessary for healthy life.  We add more sodium in free range diets than would normally be found in birds in colonies, which helps the more active free range birds with the challenges of their changing environment.  It is possible to add more sodium to help keep the birds stress free.

Organic Acids

These are included for the microbial control of health threatening bacteria. In particular salmonella and e-coli.  Organic acids will further enhance the benefits provided by Bio-Mos and Herban.

Sel-Plex

This is a natural source of selenium, an essential trace element. It is vital for optimising bird health and egg viability. It is easily absorbed by the bird and contributes to:

  • Breeding performance – through improved sperm motility and vigour

  • Chick immunity

Medical and Zoo technical treatments

We offer a range of anti-coccidial treatments.

Flubenvet is a broad spectrum wormer, effective against most worms throughout their life cycle. It is an in-feed medication which is recommended for use over a maximum 7-day period.

This is not an exhaustive list of supplements or additives. There are more that can be added, and we would be pleased to discuss them with you, to ensure that your birds receive the nutrients and the additives they need.

..

Mae Wynnstay Humphrey Feeds yn cynhyrchu llawer o fwydydd cyfansawdd ‘cyflawn’.  Mae ‘cyflawn’ yn derm cyfreithiol sy’n golygu bod y bwydydd yn darparu holl anghenion maeth eich adar.  Mae unrhyw beth arall y mae’r adar yn ei fwyta (gwair, pryfed ac ati), neu unrhyw beth arall a ychwanegir, yn mynd y tu hwnt i’r maeth cytbwys a baratowyd â gofal sydd i’w gael yn un o’n bwydydd cyfansawdd cyflawn ni.

Gallwn ni ychwanegu nifer o atchwanegiadau neu ychwanegion (llawer ohonyn nhw o darddiad naturiol) at y bwyd i atal clefydau, amddiffyn iechyd a llesiant eich haid yn ogystal â sicrhau’r cynhyrchiad gorau posibl.

Bydd y math o atchwanegiadau a ddefnyddir yn dibynnu ar oedran ac anghenion eich haid, a phenderfynir ar hyn mewn ymgynghoriad rhyngoch chi a’ch arbenigwr bwyd fferm.

Rhai o’r atchwanegiadau cyffredin sydd ar gael gennym i’w cynnwys yw:

Actigen

Mae actigen yn hybu bacteria llesol ac amddiffyniadau naturiol, ac yn helpu i ymladd bacteria niweidiol.

Mae iechyd a chyfanrwydd gastroberfeddol yn hanfodol i berfformiad anifeiliaid, a chan bod Bio-Mos yn bwydo’r llwybr gastroberfeddol mae’n chwarae rôl hollbwysig ym maeth anifeiliaid a’r hyn y maen nhw’n ei gynhyrchu.

  • Cynnal iechyd y coluddyn

  • Gweithio i normaleiddio microflora’r coluddyn

  • Atgyfnerthu’r amddiffyniadau naturiol

  • Atgyfnerthu gweithrediad y system dreulio

  • Helpu i/cyfrannu at reoli’r perygl o’r dolur rhydd

Alltech, sef cwmni sydd â bron 40 mlynedd o brofiad o wella iechyd a llesiant anifeiliaid, sy’n cynhyrchu a marchnata actigen, ac mae’n arbenigo mewn defnyddio buddion burum penodol.

Pigmentau Melynwy

Mae gennym ni sawl math o ddietau i ddodwyr, a’r gwahaniaeth rhyngddyn nhw yw’r gwahanol fathau a lefelau o bigmentau. Mae ein holl ddietau safonol yn cynnwys cyfuniad delfrydol o bigmentau melyn a choch i sicrhau melynwy o fath ac arlliw penodol.

Fersiwn sefydlog o felyn Mair yw’r pigment melyn a ddefnyddir, ac mae’r un coch yn dod naill ai o ffynhonnell naturiol o goch neu ffynhonnell sy’n cyfateb yn union i un naturiol.  Fersiwn sefydlog o baprica yw’r coch naturiol, tra bo’r coch o ffynhonnell sy’n cyfateb yn union i un naturiol (pigment gradd bwyd) yn defnyddio’r un cemegyn â’r un sydd ar gael yn naturiol i gynhyrchu lefel dywyllach fel rheol.

Gallwn ni ychwanegu mwy o’r un naturiol neu’r un o ffynhonnell sy’n cyfateb yn union i un naturiol i ddyfnhau lliw oren y melynwy.

Cregyn y Môr

Gellir ychwanegu cregyn y môr fel y mae’r dodwyr yn mynd yn hŷn. Mae cregyn y môr yn rhoi gronynnau mwy, ychwanegol o galsiwm y tu hwnt i lefel y calchfaen yn y bwyd.

Mae calsiwm yn hanfodol i ddatblygu’r ysgerbwd mewn aderyn ifanc, ond hefyd i ddatblygu’r plisg yn y dodwr aeddfed. Mae calsiwm ychwanegol ar ffurf cregyn y môr nid yn unig yn cefnogi iechyd y lasog, ond hefyd yn rhyddhau’r calsiwm yn araf ar gyfer pan fo’r gragen yn cael ei chynhyrchu.

Bicarbonad Sodiwm

Mae angen sodiwm ar ddofednod i helpu i gadw’r cydbwysedd electrolyt hanfodol sy’n angenrheidiol ar gyfer bywyd iach. Rydyn ni’n ychwanegu mwy o sodiwm at ddietau maes nag a fyddai’n arferol i’w gael mewn adar mewn cytrefi, sy’n helpu’r adar maes mwy egnïol i wynebu heriau eu hamgylchedd newidiol. Mae’n bosibl ychwanegu sodiwm i helpu i gadw’r adar yn ddi-straen.

Asidau Organig

Mae’r rhain yn cael eu cynnwys er mwyn rheoli bacteria sy’n bygwth iechyd yn ficrobig. Yn enwedig salmonela ac e.coli. Fe fydd asidau organig yn ychwanegu eto fyth at fuddion Bio-Mos a Herban.

Sel-Plex

Mae hon yn ffynhonnell naturiol o seleniwm, sef elfen hybrin hanfodol. Mae’n hollbwysig er mwyn sicrhau bod eich adar mor iach â phosibl a bod eu wyau mor hyfyw â phosibl. Mae’r aderyn yn ei amsugno’n hawdd ac mae’n cyfrannu at:

  • Berfformiad bridio – trwy wella symudedd ac egni’r sberm

  • Imiwnedd y cywion

Triniaethau Meddygol a Sŵ-dechnegol

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o driniaethau gwrth-coccidial.

Llynghyrydd eang ei sbectrwm yw flubenvet, sy’n effeithiol yn erbyn y mwyafrif o lyngyr trwy gydol pob cyfnod o’u bywyd. Argymhellir defnyddio’r feddyginiaeth hon o fewn y bwyd dros gyfnod o 7 diwrnod ar y mwyaf.

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o atchwanegiadau neu ychwanegion. Mae yna fwy y gellir eu hychwanegu, ac fe fydden ni’n hapus i’w trafod â chi er mwyn sicrhau bod eich adar yn derbyn y maeth a’r ychwanegion sydd eu hangen arnyn nhw.

....