....Run a profitable, fully supported pullet rearing business..Rhedeg busnes magu cywennod proffidiol a gefnogir yn llawn ....

....Run a profitable, fully supported pullet rearing business..Rhedeg busnes magu cywennod proffidiol a gefnogir yn llawn ....

....

To meet the growing demand for free range and organic eggs, we are expanding our pullet rearing production both internally and through collaborations with a number of contract producers.

If you have land or buildings that are suitable for pullet rearing and would like to run a profitable poultry business, fully supported by a company with over 90 years of rearing experience – then please do get in touch.

We currently supply 1.5 million pullets annually from our rearing units. Our sites range in size from 30,000 to over 100,000 birds, and are operated as single age units.  We rear to order and from our understanding of our customers’ laying objectives, produce robust birds that are able to express their full productive potential.

How it works

..

I ddiwallu’r galw cynyddol am wyau maes ac wyau organig, rydyn ni’n ehangu ein gwaith cynhyrchu cywennod magu yn fewnol a thrwy gydweithredu â nifer o gynhyrchwyr ar gontract.

Os oes gennych chi dir neu adeiladau sy’n addas ar gyfer magu cywennod ac os yr hoffech chi redeg busnes dofednod proffidiol, y mae cwmni â 90 mlynedd o brofiad yn ei gefnogi, yna cysylltwch â ni.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n cyflenwi 1.5 miliwn o gywennod yn flynyddol o’n hunedau magu. Mae ein safleoedd ni’n amrywio o ran maint o 30,000 i dros 100,000 o adar, ac yn cael eu gweithredu fel unedau un oedran. Rydyn ni’n magu’n unol â manylebau ein cwsmeriaid ac, o’n dealltwriaeth ni o amcanion dodwy ein cwsmeriaid, yn cynhyrchu adar cryf sy’n gallu dodwy i’w potensial llawn.

Sut mae’n gweithio

....

hfandp_pullet_suppliers1.jpg

....

With support and guidance from our experienced pullet rearing team, we will help you build a well-managed and profitable business.  Ensuring the quality of our pullets is vital, so we will work together with you throughout the rearing period to share our knowledge and experience.

The way it works is simple. We will provide the day-old chicks, their feed and vaccinations.  Crucially, we will provide advice and guidance to help you manage the birds to our standards throughout the rear.  We will provide training to ensure that you are confident with the vaccination processes, knowing how each vaccine should be administered.  We will also provide routine vet visits and consultations.

You will provide clean disinfected rearing houses, heating, lighting, water, bedding and labour to rear the flock from day-old chicks to 16-week pullets.

Why choose Wynnstay Humphrey Pullets

We have been operating exclusively in the poultry sector for over 85 years and have developed long term relationships with customers across the country.  We can therefore provide you with an unrivalled level of support, knowledge and guidance and the assurance that comes with a loyal and expanding customer base.

It is in our mutual interest for your enterprise to be successful and, with the knowledge and support of our field and administrative teams, we can help you achieve this goal.

Join these farmers and take the next step to becoming a pullet supplier by contacting Wynnstay Humphrey Feeds & Pullets.

..

Gyda chymorth ac arweiniad ein tîm magu cywennod profiadol ni, byddwn ni’n eich helpu chi i adeiladu busnes proffidiol sy’n cael ei reoli’n dda. Mae sicrhau ansawdd ein cywennod yn hanfodol, felly fe fyddwn ni’n cydweithio â chi trwy gydol y cyfnod magu i rannu ein gwybodaeth a’n profiad.

Mae’r ffordd y mae'n gweithio’n syml. Fe fyddwn ni’n cyflenwi’r cywion diwrnod oed, eu bwyd a’u brechiadau. Fe fyddwn ni, ac mae hyn yn hollbwysig, yn rhoi cyngor ac arweiniad i’ch helpu chi i reoli’r adar i’n safonau ni trwy gydol y magu. Fe fyddwn ni’n darparu hyfforddiant i sicrhau eich bod chi’n hyderus ynglŷn â’r broses frechu, ac yn gwybod sut y dylid rhoi pob brechiad. Fe fyddwn ni hefyd yn sicrhau bod milfeddygon ac arbenigwyr yn ymweld yn rheolaidd.

Fe fyddwch chi’n darparu cytiau magu glân wedi’u diheintio, gwres, golau, dŵr, deunydd gorwedd a llafur i fagu’r haid o gywion un diwrnod oed nes eu bod nhw’n 16 wythnos oed.

Pam dewis Wynnstay Humphrey Pullets

Rydyn ni wedi canolbwyntio ar weithredu yn y sector dofednod am dros 85 o flynyddoedd ac rydyn ni wedi datblygu perthnasoedd hirdymor gyda’n cwsmeriaid ledled y wlad. Gallwn ni felly roi cymorth, gwybodaeth ac arweiniad heb ei ail ichi ynghyd â’r sicrwydd bod gennym ni nifer o gwsmeriaid ffyddlon sy’n ehangu.

Mae o fudd i chi ac i ninnau bod eich menter yn llwyddo a chyda gwybodaeth a chymorth ein timau maes a gweinyddol, fe allwn ni eich helpu chi i gyflawni’r nod hwn.

Ymunwch â’r ffermwyr hyn a chymryd y cam nesaf tuag at ddod yn gyflenwr cywennod trwy gysylltu â Wynnstay Humphrey Feeds & Pullets.

....